Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Bydd y diffiniad o “adeilad risg uwch” yn rhyngweithio â deddfwriaeth arall, yn enwedig Deddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2010, ond nid y rhain yn unig. Mae’r diffiniad o “fflat” ac “annedd” yn y rheoliadau drafft yn debyg i’r diffiniadau a ddefnyddir yn Rheoliadau Adeiladu 2010, a’r bwriad yw gwneud y diffiniad mor hygyrch â phosibl, yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn rhyngweithio â’r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gellid bod wedi drafftio’r rheoliadau mewn ffordd wahanol, ac ystyriwyd gwneud hynny yn wir, ond mae’n fodlon bod y drafftio yn cyflawni’r nod polisi, gan gynnwys mewn perthynas â fflatiau deulawr ac anheddau tebyg eraill h.y. eu bod yn perthyn i’r diffiniad o “uned breswyl” fel y’i diffinnir yn rheoliad 2.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:

Derbynnir y gallai ffordd wahanol o ddrafftio’r rheoliadau fod wedi cynnwys cyfeiriadau mwy penodol. Fodd bynnag, ym marn Llywodraeth Cymru nid yw’r drafftio yn amwys, ac mae’n cyflawni’r bwriad polisi o gymhwyso ystyr priodol y termau diffiniedig at y diffiniad o “adeilad risg uwch”. Fel y cyfryw, nid ystyrir bod angen diwygio’r drafftio.